logo+date
 

 
Twm TSC logo Twm

Cyfarchion o Dregaron
yng Ngorllewin Gwyllt Cymru

Greetings from Tregaron
in the Wild West of Wales

 
Trail map 1   Trail poster
arrow Trail map 2 arrow

Cynlluniwyd Taith Tref Twm gan
ddisgyblion Ysgol Gynradd Tregaron

Ysgol Gynradd Tregaron Pupils
planned the Twm Town Trail

 

Wel am flwyddyn hyfryd oedd 2009 i Dregaron a Thwm Siôn Cati. Paratowyd gwledd o weithgareddau i goffau marwolaeth un o feibion enwocaf y dre, Y Bnr Thomas Jones: y cymeriad lliwgar a adweinir fel Twm Siôn Cati a fodolodd rhwng 1530 a 1609.

Yn sicr gwerth chweil oedd yr ymdrech a'r oriau di-ri a roddwyd i drefnu a pharatoi gweithgareddau amrywiol a osododd Twm Siôn Cati fel un brif atyniadau Tregaron, Ceredigion. Roedd cael ein cynnwys yn 20 uchaf digwyddiadau 2009 (ar raglen Wedi 2009/S4C) wir yn anrhydedd pur ac yn anrheg haeddianol i bawb am eu holl ymdrechion.

Well what a wonderful year 2009 was for Tregaron, Ceredigion. We prepared a feast of activities to commemorate the death of one our most famous sons, Mr Thomas Jones; this colourful individual was known as Twm Siôn Cati and he lived from 1530 to 1609.

It certainly was a worthwhile effort by all concerned. The many hours spent planning and preparing firmly established Twm Siôn Cati as one of the main brands of the town. And being included in the Top 20 Welsh Events of 2009 (as seen on Wedi 2009/S4C) was a fitting tribute to all who got involved.

 
 

Dymuna Cymdeithas Twm Siôn Cati ddiolch i BAWB a roddodd o'u amser yn cynorthwyo gyda'r gweithgareddau diri a fu yn rhan o flwyddyn Twm Siôn Cati 400. Rhoddir sylw i'r holl Grwpiau Cymunedol a gyd-drefnodd rhai gweithgareddau. Pwysig yw nod i ni werthfawrogi'n fawr y cymorth ariannol a dderbyniwyd ac i rhain sicrhau mwy o weithgareddau. 400 o ddiolchiadau i chi!

The Twm Siôn Cati Society would like to thank EVERYBODY who gave of their time assisting with the many events that formed part of the Twm Siôn Cati 400 year. The financial assistance received from the variety of sources meant that we could organise many more events than were initially planned and we are very grateful for this.

 
Twm statue Twm's cake

Cofeb Pren Twm, Tregaron
Twm Wooden Statue, Tregaron

Cacen Twm
Twm's cake

 
Committee

Pwyllgor Cymdeithas Twm Siôn Cati 2009
2009 Twm Siôn Cati Society Committee

Yvonne Jones, Trish McCreary, Stephanie Gausman, Janet Hall, Anwen Lewis
Dafydd Wyn Morgan (Cydlynydd), Lynne Lloyd (Trysorydd), Rhydian Wilson (Cadeirydd), Jan Newman (Ysgrifennydd)

(Tynnwyd y llun yng Nghinio Dathlu Twm 400)

(Photo taken during the Twm 400 Dinner)

 

Nawr rhaid edrych i'r dyfodol. Mae gan gymuned Tregaron ran allweddol i'w chwarae mewn cynnal y momentwm a grewyd yn 2009 a gobeithio y gall y dref ddod at ei gilydd yn 2030 i gofio un o feibion enwocaf y dre unwaith eto.

Yn y cyfamser bydd y cerflun pren yn parhau i groesawu pobl i Sgwâr Tregaron o flaen Canolfan Aur Rhiannon. Bydd gwobr blynyddol yn cael ei roi er cof am Twm Siôn Cati i Ysgol Gynradd Tregaron. Bydd y cwmni teithiau cerdded Teithiau Twm yn lansio'i hun maes o law ac wrth gwrs bydd pamffled unigryw yn cael ei greu i hysbysu pobl lleol ac ymwelwyr am Twm. Mae'n bosib hefyd y bydd Dydd Twm Siôn Cati yn cael ei sefydlu yn ystod Mis Mai, yn cydweithio gyda'r ysgolion leol yn y lle cyntaf.

Now we look to the future. The community of Tregaron has a key role to play in maintaining the momentum of 2009 and, hopefully, will join together again in 2030 to remember the 500th anniversary of the birth of its famous son.

In the meantime the wood carving will remain on Tregaron Square in front of Rhiannon's Gold Centre, an annual Twm Siôn Cati prize will be awarded in Tregaron Primary School, the walking company Twm's Treks is about to get its feet off the ground (apologies for the pun) and a wonderful pamphlet is to be created to give visitors and locals some information about Twm Siôn Cati. It is highly likely that a Dydd Twm Siôn Cati Day will be created during the month of May, working with Tregaron'schools in the first instance.

 
Tregaron

Tregaron, Ceredigion

 

Dyma sut gwnaethon ni gofio yn 2009...

See how we commemorated 2009...

 

Twm

llun (h) Margaret Jones
image © Margaret Jones

 

Rhestr digwyddiadau 2009
Lluniau o'r digwyddiadau 2009
Gwybodaeth am Twm Siôn Cati
Ffurflen lliwio i blant
Twm yn y cyfryngau
Lincs Twm
 
Archebwch eich Tegan Twm nawr !
Ffurflen archebu eitemau Twm

2009 program of events
Photos of 2009 events
Information about Twm Siôn Cati
Colouring worksheet for children
Twm in the media
Twm links
 
Order your Twm Toy now !
Twm merchandise order form

 

2012.05.14

(h)  Cymdeithas Twm Siôn Cati

2012.05.14

©  Twm Siôn Cati Society

 

Noddwyr Gweithgareddau Twm Siôn Cati 400

Twm Siôn Cati 400 Anniversary Sponsors

Tregaron
Lottery NFU Rhiannon Antur Teifi CCW
Ceredigion
Cynnal Europe Communities 1st