Hafan
Rhestr digwyddiadau 2009
Lluniau o'r digwyddiadau 2009
Ffurflen lliwio i blant
Twm yn y cyfryngau
Lincs Twm
 
Archebwch eich Tegan Twm nawr !
Ffurflen archebu eitemau Twm
TSC logo
Home page
2009 program of events
Photos of 2009 events
Colouring worksheet for children
Twm in the media
Twm links
 
Order your Twm Toy now !
Twm merchandise order form
 
Twm

Twm Siôn Cati,
neu Thomas Jones o Dregaron

gan Margaret Isaac
cyfieithwyd gan Gwen Evans
llun gan Margaret Jones

Twm

Twm Siôn Cati,
alias Thomas Jones of Tregaron

told by Margaret Isaac
illustrated by Margaret Jones

 

Ganed Thomas Jones ym Mhorth y Ffynnon Tregaron, yn y flwyddyn 1530. Roedd yn fab naturiol i Sión ap Dafydd ap Madoc ap Hywel Moetheu. Catherine oedd enw ei fam, un o ferched naturiol Maredydd ap Ieuan ap Robert. Priododd ei deulu â'r teulu Herbert, y teulu Vaughan o Tyle-Glas a'r teulu Clement, Arglwyddi Caron. Dengys y dystiolaeth hanesyddol ei fod yn Ustus Heddwch ac yn fawr ei barch fel hynafiaethydd, achydd a bardd.

Born in 1530 at Fountain Gate, in Tregaron, Thomas Jones was the natural son of Sion ap Dafydd ap Madoc ap Hywel Moethu. His mother was Catherine, a natural daughter of Maredydd ap Ieuan ap Robert. His family intermarried with the Herberts, the Vaughans of Tyle-Glas and the Clements, Lords of Caron. Historical evidence records Thomas Jones as a Justice of the Peace, who was also a well respected antiquary, genealogist and poet.

Yn ôl traddodiad, cysylltir ei enw â'r herwr, Twm Siôn Cati, lleidr a dihiryn a dderbyniodd bardwn oddi wrth Elizabeth I o dan amnest cyffredinol yn ystod ail flwyddyn ei theyrnasiad. Wedi hynny bu Twm Siôn Cati, neu Thomas Jones, yn byw bywyd cymharol barchus hyd ei farwolaeth yn 1609.

Yn nyddiau Twm Siôn Cati nid oedd Cymru yn genedl yn ôl ein hamgyffred ni o'r gair, yn wir nid oedd y syniad o genedlaetholdeb yn bodoli yn Ewrop tan oes Elizabeth I. Hyd at gyfnod Henry VIII, roedd gan Gymru ei harferion a'i hiaith ei hunan. Roedd hi hefyd yn wlad beryglus a digyfraith. Am fod nifer o ddeddfau a chyfundrefnau cyfreithiol gwahanol yn bodoli yng Nghymru'r cyfnod hwnnw, roedd gan ddrwgweithredwyr gyfle i osgoi cael eu cosbi am eu troseddau. Hefyd, roedd tlodi'n gyffredin iawn o ganlyniad i'r anrheithio yn ystod y brwydro yn y bymthegfed ganrif. Codwyd cynnen rhwng teuluoedd a chwerwder ymhlith y bobl a ddioddefodd o'r newidiadau cymdeithasol dirfawr.

Twm

There is a tradition which links this historical character with a daring and courageous outlaw, Twm Siôn Cati, a thief and a rascal who received a pardon from Elizabeth I under a general amnesty in the second year of her reign. Thereafter Twm Siôn Cati alias Thomas Jones lived a life of comparative respectability until he died in 1609.

In the days of Twm Siôn Cati, Wales was not a nation in the sense that we recognise the term; indeed there was no notion of nationhood in Europe until the time of Elizabeth I. Up to the time of Henry VIII, Wales was a country with its own language and customs. It was also lawless and dangerous. A confusion of laws and legal systems in Wales created opportunities for wrongdoers to evade the penalties of their crimes, but there was also widespread poverty which resulted from the devastation caused by the fighting of the fifteenth century. There were family feuds, and bitterness experienced by those who suffered from the profound social changes taking place.

Crëwyd anghydfod o'r gwrthdaro rhwng uchelgeisiau, ac atgasedd rhwng y brodorion o Gymry, oedd yn ceisio dringo i fyny, a'r Swyddogion o Saeson oedd am eu rhwystro. Gwlad oedd Cymru'r cyfnod hwnnw lle'r oedd y diegwyddor a'r grymus yn ffynnu. Yn aml iawn roedd y Llysoedd Barn, oedd i fod i farnu troseddwyr, yn ddi-rym a'r troseddwyr yn mynd heb eu barnu. Roedd swyddogion yn derbyn llwgrwobrwyon ac arian drwy drais, yn amddifadu'r tenantiaid o'u heiddo ar gam, ac yn dwyn y dirwyon.

Pan ddaeth Henry VIII i'r orsedd etifeddodd ewyllys da pobl Cymru drwy ei dad. Ond roedd y Brenin â'i fryd ar uno Cymru a Lloegr yn un wlad oedd â ffordd Seisnig o fyw, a ganddi un iaith - yr iaith Saesneg. Drwy gydol ei deyrnasiad bu Henry VIII yn ymdrechu'n galed i reoli Cymru ac i dra-arglwyddiaethu arni. I'r perwyl hwn, yn 1534, penododd Rowland Lee yn Esgob Caerlwytgoed ac yn Arglwydd Arlywydd y Mers, efallai mai ef oedd dyn mwyaf ysgeler ei gyfnod yn Lloegr ar y pryd. Roedd Twm Siôn Cati yn bedair oed yr adeg honno, ac yn ystod naw mlynedd nesaf ei oes bu'r Esgob Lee yn gweithredu teyrnasiad o arswyd yng Nghymru gyda'r bwriad o ddiddymu'i harferion a'i hiaith.

Rhwng 1534 ac 1543, gorfododd Henry VIII y Ddeddf Uno ar Gymru gyda'r bwriad o dorri grym Arglwyddi'r Mers a gosod rhyw fath o gyfraith a threfn ar Gymru a'r Mers. O ganlyniad i'r Ddeddf Uno sefydlwyd Cymru a Lloegr yn un wlad bellach o dan gyfraith Lloegr. Bu farw Rowland Lee yn y flwyddyn 1543 ond ni ddiffygiodd penderfyniad brenhinoedd Lloegr i orfodi iaith a diwylliant Lloegr ar Gymru. Bu Twm Siôn Cati yn byw yn oes wyllt a chreulon y Tuduriaid cynnar.

Friction was caused by conflicting ambitions and hostility between native Welshmen pushing their way to the top and the English officials standing in their way. Wales was a country where the strong and the unscrupulous prospered. On many occasions, Courts of Justice, meant to try numerous crimes, were frequently held in abeyance, causing these crimes to go untried. Officials took bribes, failed to hold courts, extorted money, wrongfully dispossessed tenants of their property, and embezzled fines.

When Henry VIII ascended the throne, he inherited through his father, a wealth of goodwill from the Welsh people However, he was more interested in uniting England and Wales into one country, with a predominant English way of life, a country with one language, English. Throughout his reign, Henry VIII struggled to control and dominate Wales. To this end, in 1534, he appointed Rowland Lee as Bishop of Lichfield and Lord President of the Marches of Wales. This man was probably one of the most evil men in England at that time. Twm Siôn Cati was then four years old. For the next nine years of Twm Siôn Cati's life, Bishop Lee operated a reign of terror in Wales, intent on stamping out Welsh customs and the Welsh language.

From 1534 to 1543, Henry VIII imposed the Acts of Union, intending to curtail the power of the Marcher lords and impose some notion of law and order in Wales and the Marches. The Acts of Union established England and Wales as one country under English law. Rowland Lee died in 1543 but the determination of the English monarchs to continue to impose the English language and culture on Wales did not diminish. Twm Siôn Cati survived in these cruel and wild times of the early Tudors.

 

Tameidiau o fywyd a chyfnod
Twm Siôn Cati

  • Uchelwyr oedd cyndadau Twm Siôn Cati, er enghraifft y Teulu Gwaethfod o Sir Aberteifi. Roedd Jasper Tudur (oedd yn byw yng Nghastell Rhaglan) yn perthyn i Henry V111 ac i Thomas Jones.
  • Roedd y Doctor John Dee, Seryddwr Brenhinol Elisabeth I, yn gefnder i Twm Siôn Cati.
  • Efallai mai'r Dr John Dee oedd y James Bond gwreiddiol. Roedd yn asiant cudd i Elizabeth I ac yn fathemategydd oedd yn cynghori Philip o Sbaen ar sut i adeiladu'r Armada. Ei enw cod ei hunan oedd 007, sydd hefyd yn enw cod James Bond.
  • Mae llawysgrifau'n sy'n cynnwys rhai o gerddi Twm Siôn Cati yn dal mewn bod.
  • Roedd ei ail wraig, Johane, yn ferch i Sir John Prys o Briordy Aberhonddu oedd yn gomisiynydd Henry V111 i Ddiddymu'r Mynachlogydd yng Nghymru.
  • Roedd gwr cyntaf Johane, Thomas Rhys Williams, yn Uwch Siryf Aberteifi yn 1579 ac yn 1596.
  • Treuliodd Henry Fielding beth amser yng Nghymru a thybir iddo seilio ei arwr Tom Jones, cymeriad yn y llyfr o'r un enw, ar gymeriad Twm Siôn Cati.
  • Roedd achau'n bwysig iawn yn y cyfnod hwn am fod dull Lloegr o etifeddu drwy gyntafanedigaeth wedi dod i rym cyfreithiol o dan y Ddeddf Uno. O brofi llinach a thras gydag awdurdod, gellid darganfod ffortiwn mewn erwau o diroedd. Ceir enghreifftiau o waith achyddol Thomas Jones yn y Llyfrgell Brydeinig ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gwelir enghraifft hynod o'r Teulu Rhys o Ddinefwr yn Swyddfa Archifau Caerfyrddin.

Snippets from the life and times
of Twm Siôn Cati

  • Twm Siôn Cati's ancestors were true aristocrats, such as the Gwaethfod family of Cardiganshire. Jasper Tudor (who lived in Raglan Castle) was related to Henry VIII and Thomas Jones.
  • Twm Siôn Cati's cousin was Dr John Dee Astronomer Royal to Elizabeth I.
  • Dr John Dee might have been the original James Bond. He was an intelligence agent for Elizabeth I and had been involved as a mathematician in advising Philip of Spain on the construction of the Armada! His code for his own name translates into 007 which was also the code name for James Bond.
  • Some of Twm Siôn Cati's poems survive in Manuscript.
  • His second wife, Johane, was the daughter of Sir John Price of Brecon Priory, who was Henry VIII's commissioner for the dissolution of monasteries in Wales.
  • Johane's first husband was Thomas Rhys Williams High Sheriff of Cardigan in 1579 and 1596.
  • Henry Fielding spent some time in Wales and is thought to have based his eponymous hero, Tom Jones on the character of Twm Siôn Cati.
  • Genealogy was of great importance, because under the Act of Union, the English system of primogeniture became legal. Line of descent, authoritatively proved, could uncover fortunes in acres of land. Examples of Thomas Jones' genealogical work are in the British Library and the National Library of Wales. An outstanding example, that of the Rhys family of Dinefwr, is to be seen in the Carmarthen Record Office.
 

Margaret Isaac yw awdur y llyfr 'The Tale of Twm Siôn Cati',
cyhoeddwyd gan Wasg Apecs, 2009.

Margaret Isaac is the author of 'The Tale of Twm Siôn Cati',
published by Apecs Press, 2009.

 

(h)  Cymdeithas Twm Siôn Cati

©  Twm Siôn Cati Society